Venue

Y Llofft
Fic, Llithfaen, LL53 6PA, Gwynedd, UK

Additional details

Gigs Llofft - Ynys: Nos Sadwrn Gorffennaf 5ed

Tocynnau £15 o Llofft neu trwy Eventbrite + ffi platfform

Mae Llofft yn falch o gyhoeddi gig arbennig gydag Ynys, prosiect cerddorol Dylan Hughes, gynt o Race Horses a Radio Luxembourg.

Yn chwechawd byw, mae Ynys yn cyfuno harmonïau dros drac sain hudolus o beiriannau llinynnau o’r 70au, synths o’r 80au a gitâr fuzz.

Yn cefnogi Ynys bydd Martha Elen, artist ifanc o'r Felinheli, a chyd - sylfaenydd 'Aawni', platfform digidol newydd sydd yn rhoi cerddoriaeth Gymraeg ar y map.

Bydd y gig yn dilyn dangosiad ar sgrin fawr Llofft o gêm Cymru v yr Iseldiroedd yn ffeinals pêldroed merched EURO 2025

event-page-view